Bydd adnewyddu’r contract yn golygu y bydd yr holl ddogfennau gwybodaeth i gleifion yn cael eu cyflwyno mewn fformat dwyieithog i gydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg (rhif 7) 2018.
29 Ebrill 2022 – Am y 15fed flwyddyn yn olynol, mae GIG Cymru wedi adnewyddu ei gontract gydag EIDO Healthcare i roi dogfennau gwybodaeth dwyieithog i holl Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd GIG Cymru i helpu gyda defnyddio gwybodaeth i gydsynio i driniaethau.
Adnewyddwyd contract EIDO unwaith yn rhagor yn dilyn proses dendro gyhoeddus gystadleuol lle dangosodd EIDO bod ei lyfrgell gynhwysfawr o ddogfennau gwybodaeth am driniaethau mewn fformatau dwyieithog yn heb ei hail. Mae’r llyfrgell yn cynnwys y gallu i gyflwyno gwybodaeth mewn ieithoedd eraill a fformatau hawdd eu darllen ar gyfer cleifion ag anableddau dysgu.
Wrth sôn am y contract, dywedodd Jonathan Webb, Pennaeth Diogelwch a Dysgu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Cronfa Risg Cymru, “Mae cyrff iechyd GIG Cymru wedi bod yn gweithio gydag EIDO Healthcare ers iddo lansio dros 20 mlynedd yn ôl. Mae Cronfa Risg Cymru yn falch iawn o adnewyddu ein cytundeb unwaith eto a pharhau â’r berthynas amhrisiadwy hon ar ran cleifion a chlinigwyr ar draws GIG Cymru. Mae EIDO yn darparu gwybodaeth hanfodol yn gyson ac o ansawdd uchel i gleifion GIG Cymru. Roedd y broses dendro gynhwysfawr wedi amlygu’r broses effeithiol ar gyfer ysgrifennu ac adolygu gwybodaeth.”
Ychwanegodd, “Mae ymrwymiad parhaus EIDO i anghenion penodol GIG Cymru, ac i welliant ac ehangiad parhaus yr adnodd hanfodol hwn, yn ganolog i’n gofynion. Mae darparu cynnwys dwyieithog fel mater o drefn yn Gymraeg ac yn Saesneg yn rhan hanfodol o gynorthwyo’r broses o gydsynio ar sail gwybodaeth. Gallwn hefyd weld yn glir sut mae dulliau EIDO yn esblygu er mwyn diwallu anghenion clinigwyr a chleifion yn barhaus yn ystod y daith o drawsnewid yn ddigidol, gyda gwybodaeth ar gael i bawb.”
Bydd dogfennau gwybodaeth i gleifion yn cael eu cyflwyno drwy Lyfrgell Gwybodaeth EIDO, gyda’r Gymraeg wedi’i gwreiddio fel y gwasanaethau craidd. Hefyd, mae EIDO wedi darparu dogfennau gwybodaeth mewn fformatau hygyrch ar gyfer cleifion sydd â nam ar eu golwg; fformatau iaith dramor ar gyfer cleifion nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt; ac am y tro cyntaf, gwybodaeth mewn fformat ‘Hawdd ei Ddarllen’ ar gyfer cleifion ag anabledd dysgu.
Gwybodaeth am EIDO Healthcare
Mae EIDO Healthcare yn darparu dulliau digidol dibynadwy ar gyfer cydsynio i driniaethau meddygol. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae dulliau cydsynio EIDO bellach yn cael eu defnyddio mewn dros 65% o ysbytai’r GIG ac 85% o ysbytai preifat acíwt.
Mae set o ddogfennau Cydsyniad ar sail Gwybodaeth EIDO yn darparu dogfennau cydsyniad i driniaethau sydd wedi’u hoptimeiddio’n ddigidol, ynghyd ag animeiddiadau realistig drwy ddatrysiad yn y cwmwl. Lluniwyd y dogfennau i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gael ac i gofnodi cydsyniad ar sail gwybodaeth cleifion yn effeithlon ac yn effeithiol. Maent yn gwella profiad y claf, yn gwella llif gwaith clinigol ac yn diogelu enw da’r sefydliad ac enw da clinigol.
Bilingual patient information documents from EIDO Healthcare continue to set the standard for NHS Wales Shared Services Partnership
Contract renewal will see all patient information documents delivered in a bilingual format to support the Welsh Language Measure (Wales) 2011 and Welsh Language Standards (no.7) 2018.
29th April 2022 – For the 15th consecutive year, NHS Wales has renewed their contract with EIDO Healthcare to supply all NHS Wales Trusts and Hospitals with bilingual patient information documents to support informed medical consent.
The back to back contract renewal follows a competitive public tender process where EIDO demonstrated their comprehensive procedure library in bilingual formats has no equal. The library includes the ability to present information in other languages and easy to read formats for patients with learning disabilities.
Commenting on the award Jonathan Webb, Head of Safety and Learning at NHS Wales Shared Services Partnership – Welsh Risk Pool said, “NHS Wales health bodies have been working with EIDO Healthcare since their launch over 20 years ago. The Welsh Risk Pool are very pleased to renew our agreement once again and continue this invaluable relationship on behalf of patients and clinicians across NHS Wales. EIDO delivers consistent and high quality essential information for NHS Wales patients. The effective process for authoring and reviewing information was clearly evident from the comprehensive tender process. “
He continued, “EIDO’s ongoing commitment to the specific needs of NHS Wales and a constant improvement and expansion of this vital resource is central to our requirements. Delivering bilingual content as standard in both Welsh and English is a critical part of supporting the informed consent process. We can also see clearly how EIDO’s solutions are evolving to continually meet the changing needs of both clinicians and patients along the digital transformation journey with information accessible to all.”
Patient information documents will be delivered through the EIDO Inform Library with Welsh language embedded as the core services. In addition, EIDO has provided information documents in accessible formats for patients with visual impairment; foreign language formats for patients whose first language is not English; and for the first time, information in “Easy Read” format for patients with a learning disability.
About EIDO Healthcare
EIDO Healthcare delivers trusted digital solutions for consent to medical procedures. With over 20 years’ experience in supporting healthcare professionals, EIDO consent solutions are now used in over 65% of NHS hospitals and 85% of acute private hospitals.
The EIDO Inform Consent Suite delivers digitally optimised consent procedure documents and photo realistic animations through a cloud-based solution. Developed to support healthcare professionals in taking and recording informed patient consent efficiently and effectively, they enhance the patient experience, improve clinical workflows and protect organisational and clinical reputations.